Neidio i'r prif gynnwys

Digwyddiadau > Salon Seidr

Yn ôl i bob digwyddiad

Salon Seidr

Mae salon seidr yn achlysur ofnadwy o brin lle mae criw o wneuthurwyr seidr o bob cwr yn ymgynnull mewn ystafell i rannu eu gwaith. Dyma hysbysebu Salon Seidr Machynlleth cyntaf erioed, lle cewch gyfle i gael blas ar rai o'r seidrau a pherai gorau yng Nghymru a'r Gororau, a chlywed hanes eu creu o lygad y ffynnon seidr, fel petai. Eleni, rydym yn falch o groesawu Tirlais (Cwm Croesor), Seidir Tydecho (Bro Ddyfi), Welsh Mountain Cider (Llanidloes), Skyborry Cider and Perry (Tref-y-clawdd), Artistraw Cider (Dyffryn Gwy), The Ross on Wye Cider Company (Dyffryn Gwy), a Troggi Cider and Perry (Sir Fynwy). Dewch yn llu, a llawenhewch! 

Prynwch eich tocynnau yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/cider-salon-gwyl-fwyd-bro-ddyfi-tickets-2003503138821?aff=oddtdtcreator

Marchnadoedd a FfeiriauOedolion
Dydd Sadwrn 24 Hydref15:00–18:0015
seidirtydecho@gmail.com

The Wynnstay Hotel, Heol Maengwyn, Machynlleth, UK