Neidio i'r prif gynnwys

Digwyddiadau > Darlith Gyhoeddus Am Ddim yn CyDA gan Mike Berners-Lee

Yn ôl i bob digwyddiad

Darlith Gyhoeddus Am Ddim yn CyDA gan Mike Berners-Lee

Mae CyDA yn gwahodd aelodau o’r cyhoedd i ymuno â myfyrwyr yr Ysgol Raddedig ar Ddydd Iau 12fed o Dachwedd, ar gyfer ddarlith gyhoeddus gan Mike Berners-Lee gyda’r teitl: ‘2026: Beth sydd wir ei angen i osgoi cyfnodau gwael a gofalu am ein gilydd a’r blaned.’

Yn 2026, wrth i’r argyfwng hinsawdd a natur barhau, rydym yn dal i fyw mewn cyfnod heriol iawn, ac yng ngwyneb argyfyngau byd-eang sy’n gorgyffwrdd, gall fod yn anodd dychmygu sut y gallwn greu’r amodau ar gyfer newid systemig. Yn y ddarlith a’r sesiwn holi ac ateb hon, bydd Mike yn tynnu ar ei arbenigedd i fyfyrio ar ble mae’r cyfleoedd ar gyfer gweithredu ar y cyd yn gorwedd, gan ystyried sut y gall gwirionedd, dewrder a meddwl systemig dwfn ein helpu i osgoi cyfnodau gwael drwy ofalu am ein gilydd a’r blaned.

Linc i’r digwyddiad: https://cy.cat.org.uk/event/darlith-gyhoeddus-yr-ysgol-raddedig/

Sgyrsiau a Gweithdai
Dydd Iau 12 Tachwedd19:00–20:30Am Ddim
https://cat.org.uk/event/public-graduate-school-lecture/

Centre for Alternative Technology, Pantperthog, Machynlleth, UK