Digwyddiadau > Cinio Cymunedol Eginiad
Yn ôl i bob digwyddiad
Cinio Cymunedol Eginiad
Am ddim. Seiliedig ar blanhigion. Wedi'i goginio gan gogydd.
Bob dydd Iau trwy’r gaeaf.
Steddwch i lawr. Bwyd da, cwmni da, a dim brys i adael. Arhoswch am baned a sgwrs, neu am y sesiwn gyfan.
Dewch ar eich pen eich hun neu gyda ffrind. Bydd rhywun yn dweud helo ac yn dod o hyd i sedd i chi. Mae llawer o bobl yn dod ar eu pennau eu hunain, ac mae llawer yn gadael wedi cyfarfod â rhywun newydd.
Mae ein tîm yn gyfeillgar ac wedi ein hyfforddi. Os oes angen ychydig o gymorth ychwanegol arnoch – boed hynny gyda materion ariannol, iechyd neu unrhyw beth arall – gallwn eich cyfeirio at y bobl gywir.
Methu dod? Mae bwyd i fynd ar gael.
“Dwi’n edrych ymlaen at ddydd Iau.”
“Teimlo fy mod i’n cael fy nerbyn, fy ngwerthfawrogi, fy ngharu a fy mod i’n cael gofal. A theimlo fy mod yn cael fy nghroesawu gymaint ag unrhyw un arall.”
Croeso i bawb.
Derbynnir rhoddion.
Taj Mahal Community Hwb, Heol Pen'Rallt, Machynlleth, UK