Neidio i'r prif gynnwys

Digwyddiadau > Y Pwer o fwyd lleol: Tyfu Dyfodol Mwy Adlamol

Yn ôl i bob digwyddiad

Y Pwer o fwyd lleol: Tyfu Dyfodol Mwy Adlamol

Beth pe bai’r bwyd ar ein platiau’n gallu helpu i lunio dyfodol gwell i’n cymunedau? Trafod gyda Ann Owen.

Mae’r ffordd rydym yn cynhyrchu, prynu a bwyta bwyd yn cael effeithiau pellgyrhaeddol ar ein hiechyd, hamgylchedd, heconomi leol ac hyd yn oed ein sicrwydd bwyd. Ond faint ydyn ni’n ei wybod mewn gwirionedd am darddiad ein bwyd, a’r hyn sydd ei angen i’w gynhyrchu?

Gyda’r tywydd yn dod yn fwy anrhagweladwy, costau’n codi a chadwyni cyflenwi byd-eang yn fregus, mae tyfu bwyd yn nes at adref yn bwysicach nag erioed.

Ymunwch â ni i ddarganfod pam mae bwyd lleol yn bwysig, yr heriau sy’n wynebu ein ffermwyr a’n tyfwyr, a’r cyfleoedd cyffrous i adeiladu system fwyd leol gynaliadwy a ffyniannus.

Yn bwysicaf oll, dewch i ddysgu sut y gall y dewisiadau a wnawn bob dydd helpu i lunio dyfodol lle mae bwyd da ar gael i bawb, lle mae cynhyrchwyr lleol yn ffynnu, a lle mae ein cymunedau wedi’u paratoi’n well ar gyfer beth bynnag a ddaw yn y dyfodol.

Sgyrsiau a Gweithdai
Dydd Sadwrn 24 Hydref12:15–13:15
gwylfwyd@wynnstay.wales

The Wynnstay Hotel, Heol Maengwyn, Machynlleth, UK