Neidio i'r prif gynnwys

Digwyddiadau > Film + Q&A: 6 inches of soil

Yn ôl i bob digwyddiad

Film + Q&A: 6 inches of soil

Dangosiad y Ffilm 6 Inches of Soil, ac yna Sesiwn Holi ac Ateb gyda Sam Carey, Alice Briggs a Roz Corbett

Mae Sam Carey yn ffermwr arloesol sydd wedi’i leoli ym Machynlleth. Mae’n defnyddio egwyddorion amaethyddiaeth adfywiol i ddatblygu system ffermio llaeth gynaliadwy a phroffidiol heb fewnbynnau allanol ym Mathafarn (Llanwrin), gan roi pwyslais arbennig ar bwysigrwydd iechyd y pridd.

Mae Alice ar hyn o bryd yn rheolwr rhaglen i Tir Canol, partneriaeth tirwedd yng Nghanolbarth Cymru sy’n cynnal rhaglenni preswyl i artistiaid ac yn gweithio ar brosiectau sy’n cefnogi gweithredu ar yr hinsawdd, mentrau addasu arfordirol ac adfer natur. Mae’r gwaith yma yn seiliedig ar lasbrint a gydgynlluniwyd gan y gymuned ac a ariennir gan Sefydliad Esmée Fairbairn. Mae Alice hefyd yn gweithio ar ei liwt ei hun fel curadur a chynhyrchydd, ac yn fentor ar gyfer cynllun Creative Steps Cyngor Celfyddydau Cymru. Yn flaenorol, bu’n bennaeth celf yn Amgueddfa Cymru ac yn guradur cynorthwyol yn Amgueddfa Ceredigion. Mae ganddi bum mlynedd ar hugain o brofiad o weithio ym maes amgueddfeydd, treftadaeth a’r celfyddydau fel curadur, yn ogystal ag fel artist sy’n gweithio drwy ymarfer cymdeithasol ymgysylltiol, gyda ffocws ar ecoleg, tirwedd, cof a chymuned.

Mae Roz yn arddwr marchnad organig ac yn dyfwr yng Ngerddi Glan Dyfi, gardd farchnad 1 hectar tu allan i Benegoes. Mae ganddi naw mlynedd o brofiad o arddwriaeth farchnad ar sail fasnachol. Mae hefyd yn gydlynydd Treialon Cnydau i Tir Canol, lle mae’n gweithio i gefnogi datblygiad y system fwyd leol yn yr ardal. Mae ganddi PhD mewn daearyddiaeth ddynol, gyda ffocws ar berchnogaeth gymunedol ar dir a’r newidiadau sy’n digwydd ym maes ffermio yn yr Alban.

Sgyrsiau a Gweithdai
Dydd Sadwrn 24 Hydref18:30–20:00
gwylfwyd@wynnstay.wales

The Wynnstay Hotel, Heol Maengwyn, Machynlleth, UK